Offerynnau statudol cymru
2012 Rhif 193(Cy.31 ) (C.6)
Llywodraeth leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn dwyn i rym, ar 31 Ionawr 2012, adrannau 38 i 43 o’r Ddeddf sy’n ymwneud ag atebolrwydd o ran cyflogau, ac adran 69 sy’n ymwneud â rhyddhad yn ôl disgresiwn o ardrethu annomestig.
OfferynNau statudol cymru
2012 Rhif 193(Cy. 31) (C.6)
Llywodraeth leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012
Gwnaed 25 Ionawr 2012
Yn dod i rym 31 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 240(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011([1]).
Enwi a chymhwyso
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 31 Ionawr 2012
2. Daw darpariaethau canlynol Deddf Lleoliaeth 2011 i rym ar 31 Ionawr 2012—
(a) adrannau 38 i 43 (atebolrwydd o ran cyflogau);
(b) adran 69 (ardrethu annomestig; rhyddhad yn ôl disgresiwn).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
25 Ionawr 2012